Bishop Emeritus Edwin Regan to celebrate Mass of Thanksgiving in Welsh at Wrexham Cathedral

A double celebration will be held at Wrexham Cathedral on 26th November. Y Cylch Catholig will be noting 80 years since its establishment and celebrating 50 years since the weekly Mass in Welsh was established in the Archdiocese. Bishop Emeritus Edwin Regan will preside at the concelebrated Mass.

Just over 50 years ago, a young priest heard some children chattering in Welsh after the Sunday Mass at St Cadoc’s church, Cowbridge. After getting to know their families, Fr. Edwin Regan realised that they and others needed to be able to hear Mass regularly in Welsh. So with the help of friends and a cassette in his car, he set about becoming fluent enough to offer Mass in Welsh at St Cadoc’s church. From the first Sunday of Advent 1971 the Welsh congregation heard Mass every week in Cowbridge until about twenty years later when Canon Regan, as he had then become, moved to St Mary’s in Bridgend. The Mass in Welsh was then celebrated every Sunday at St Mary’s.

When Canon Regan was appointed Bishop of Wrexham, Fr Ieuan Jones invited the congregation to the Sacred Heart church in Leckwith. The Church of St Philip Evans in Llanedeyrn was our next home and, more recently, the regular Mass in Welsh has been welcomed at the church of St Teilo, Whitchurch. The young priest who is now Bishop Emeritus Edwin Regan will preside at this special Mass of thanksgiving fifty years later!

We thank God for him and for all the priests who have offered Mass in Welsh over the years, ensuring that the language of heaven has been regularly heard in the Archdiocese for half a century.

Everyone is welcome to the Mass on 26 November at 6.00pm and at the reception afterwards in the Cornerstone when Y Cylch Catholig will launch Gwinllan a Roddwyd – the story of Y Cylch Catholig by the late Ioan Roberts, published by Y Lolfa.

…………………………………………..

Bydd dathliad dwbl arbennig yn cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Dewi Sant ar 26 Tachwedd. Mae’r Cylch Catholig yn trefnu Offeren i ddathlu 80 mlynedd ers ei sefydlu, a hanner can mlynedd ers cychwyn yr Offeren Gymraeg wythnosol yn yr Archesgobaeth. Bydd yr Esgob Emeritws Edwin Regan yn llywyddu yn yr Offeren a bydd nifer o offeiriaid yn cyd-ddathlu gydag e.

Ychydig dros 50 mlynedd yn ôl, clywodd offeiriad ifanc blant bach yn clebran yn Gymraeg ar ôl y gwasanaeth yn eglwys Cadog Sant yn Y Bontfaen. Wedi holi a dod i nabod teulu Harri a Lenna Pritchard Jones, penderfynodd y Tad Edwin Regan y dylen nhw ac eraill fod yn medru clywed yr Offeren yn Gymraeg. Felly, gyda help casét yn ei gar a pharodrwydd brwd i ymarfer gyda ffrindiau bob cyfle posib, dysgodd ddweud yr Offeren, a sefydlu Offeren wythnosol yn eglwys Cadog Sant. O Sul cyntaf Adfent 1971 cafodd Cymry Cymraeg ddathlu’r Offeren yn Y Bontfaen am oddeutu 20 mlynedd cyn symud i eglwys Santes Fair Penybont ar Ogwr nes i’r Canon Regan adael pan gafodd ei enwi yn Esgob Wrecsam.

Daeth y Tad Ieuan Jones i lanw’r bwlch a symudodd yr Offeren i eglwys fach Y Galon Sanctaidd yn Llechwydd; yna buodd am gyfnod yn Llanedeyrn hyd nes iddi ymgartrefi yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn Eglwys Teilo Sant yn yr Eglwys Newydd. Bydd yr offeiriad ifanc gynt sydd bellach yn Esgob Emeritws Edwin Regan yn llywyddu yn yr Offeren arbennig ddiwedd y mis, hanner can mlynedd yn ddiweddarach!

Diolchwn i Dduw amdano ac am yr holl offeiriaid eraill a barodd i iaith y nefoedd gael ei chlywed yn gyson mewn eglwys Gatholig yn esgobaeth Caerdydd.

Mae croeso cynnes i bawb i’r Offeren ar 26 Tachwedd am 6.00 o’r gloch ac i’r derbyniad wedyn yn y Gonglfaen (Cornerstone) ar Heol Siarl i lansio llyfr hanes Y Cylch Catholig, Gwinllan a Roddwyd gan y diweddar Ioan Roberts, a gyhoeddir gan Y Lolfa.

………………………………….

Translation courtesy: Carys Whelan